Skip to main content

This job has expired

Rheolwr Prosiect / Project Manager

Employer
S4C
Location
Carmarthenshire (Sir Gaerfyrddin) / Hybrid
Salary
£40,000 - £50,000 per annum, dependent on experience
Closing date
3 Sep 2022

Project Manager

This is an advertisement for a Project Manager for which the ability to speak and understand both Welsh and English is essential.

Please refer to the Welsh advert for further details

Applications should be sent by 12.00 on Monday 22 August 2022 to adnoddau.dynol@s4c.wales or Human Resources, Canolfan S4C, Yr Egin, Carmarthen, SA31 3EQ.

We do not accept CVs.

Interviews will be held on Thursday 1 September 2022.

Applications can be submitted in Welsh. Any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.

Rheolwr Prosiect

Mae S4C yn gweithredu ei rhaglen trawsnewid dros y 5 mlynedd nesaf sydd yn cynnwys nifer o brosiectau strategol bwysig. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o ran graddfa ac uchelgais ond mae un elfen nodweddiadol iddyn nhw i gyd: newid. Ymhlith portffolio cyfredol S4C o brosiectau mae, newid i fod yn gyhoeddwr cynnwys ar draws aml lwyfannau, gweithredu prosiectau data a brand a nifer o brosiectau newid llai sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad a diwylliant sefydliadol.

Mae S4C yn chwilio am Rheolwr Prosiect i arwain y portffolio o brosiectau trwy eu cylchoedd bywyd, gan sicrhau bod prif elfennau’r prosiectau’n cael eu cyflwyno yn unol ag amser, safon a chost briodol. Bydd y Rheolwr Prosiect yn llysgennad dros newid ac hefyd yn sicrhau bod prosiectau sy’n dod i’r amlwg yn cyd-fynd â strategaeth. Byddwch yn gyfrifol am rhaglen trawsnewid ar adroddiad cyson i’r Bwrdd a DCMS.

Byddwch yn cyfrannu syniadau yn rhagweithiol tuag at y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cynorthwyo â gweithredu prosesau/systemau newydd er mwyn gwella S4C. Bydd y Rheolwr Prosiect yn cynorthwyo’r tîm Rheoli â chynlluniau tymor hir gweithgareddau S4C, yn sefydlu partneriaethau creadigol a busnes, yn sicrhau amlygrwydd brand S4C â’r gymuned yn y De Orllewin a gweddill Cymru.

Manylion Eraill

Lleoliad:                 Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.  Rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. 

Cyflog:                    £40,000 - £50,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar profiad.

Cytundeb:               5 mlynedd

Oriau gwaith:        35¾ yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i adnoddau.dynol@S4C.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 12.00 ar ddydd Llun 22 Awst 2022.

Nid ydym yn derbyn CV.

Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 1 Medi 2022.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert